Derbyniad newydd o ddysgwyr yn cychwyn ar gwrs dan arweiniad y diwydiant sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd yn y sector Ynni Adnewyddadwy

17 October 2023
« Yn ôl i newyddion
Image

Lansiodd cwrs Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy ei ail flwyddyn y mis hwn yng Ngholeg Sir Benfro a chroesawu carfan newydd o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf i’r rhaglen arloesol sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer marchnad swyddi ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.

Ymunodd EDF Renewables UK a DP Energy, y partneriaid y tu ôl i Fferm Wynt Alltraeth Arfaethedig Gwynt Glas y Môr Celtaidd, â Choleg Sir Benfro am y tro cyntaf yn 2022 i sefydlu Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy. Mae’r rhaglen ddwy flynedd sydd wedi ennill gwobrau’n trosglwyddo gwybodaeth go iawn o’r sector i bobl ifanc 16-18 oed a’i nod yw addysgu dysgwyr am dechnolegau carbon isel, gan gynnwys tonnau, llanw, gwynt ar y tir, ynni solar a gwynt alltraeth a phrosesau datblygu prosiect cysylltiedig. Mae'r rhaglen yn dod ag arweinwyr busnes i'r ystafell ddosbarth i gynnig ymgysylltiad ystyrlon rhwng cyflogwr a dysgwr.

Yn ei flwyddyn gyntaf, ymgysylltodd y cwrs â dros 90 o ddysgwyr a bu rhyw 40 o sefydliadau’r diwydiant yn cymryd rhan yn y rhaglen. Derbyniodd hefyd wobr ‘Sgiliau Ynni Gwynt Alltraeth’ yng Ngwobrau Gwynt ar y Môr cyntaf Renewables UK. Mae’r rhaglen wedi cyrraedd rhestr fer y wobr hon eto eleni ac hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer am dwy Wobr STEM Cymru. Mae Gwobrau STEM Cymru yn tynnu sylw at fusnesau sy’n cael effaith ar economi Cymru, y rhai sy’n mynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth STEM a phrinder sgiliau, a’r rhai sy’n ysbrydoli ac yn codi dyheadau’r genhedlaeth nesaf.

Dywedodd Mark Hazelton, Cyfarwyddwr Prosiect Gwynt Glas:

“Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy yw’r rhaglen gyntaf o’i bath yng Nghymru. Ei nod yw ysbrydoli myfyrwyr i archwilio opsiynau gyrfa yn y dyfodol yn y sector ynni adnewyddadwy sydd eu hangen i adeiladu system ynni sero net y dyfodol. Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn ymwybodol o’r cyfleoedd ac mewn sefyllfa dda i wneud y mwyaf o’r buddion o brosiectau gwynt alltraeth arnofiol yn y dyfodol fel Gwynt Glas a allai fod ar garreg eu drws.”

Dywedodd Joshua Thomas, myfyriwr ail flwyddyn Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy yng Ngholeg Sir Benfro:

“Cofrestrais ar gyfer Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy gan fy mod yn pryderu am newid hinsawdd. Byddwn wrth fy modd yn gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy ar ôl fy astudiaethau. Rwy'n gobeithio y bydd y cwrs hwn yn fy helpu i sefyll allan. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â busnesau, dysgu sut maen nhw wedi cyrraedd lle maen nhw nawr a darganfod beth sydd angen i mi ei wneud i gyrraedd yno hefyd.”

Dywedodd Arwyn Williams, Pennaeth Cyfadran Peirianneg, Cyfrifiadura, 14-16, Enwebai Ansawdd ac Arweinydd Strategol Addysg Uwch Coleg Sir Benfro:

“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel i’r dysgwyr gael cymaint o ymgysylltiad ystyrlon â’r diwydiant sy’n ymwneud â’r sector cyffrous hwn. Mae’r bartneriaeth gyda Gwynt Glas wedi galluogi’r coleg i gysylltu â sefydliadau pwysig ac rydyn ni’n teimlo’n llawn cyffro i gychwyn ar y cam nesaf hwn o’r rhaglen gyda’r ail garfan.”

Bu awydd a chyffro gwirioneddol gan ddysgwyr a phartneriaid am y rhaglen hon. Mae'r sesiynau wedi bod yn gymysgedd o weithdai rhyngweithiol, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau, darlithoedd ac ymweliadau â safleoedd. Ategwyd hyn gan ddysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth.

Mae dysgwyr ar fin cychwyn ar eu hail flwyddyn sy'n cynnwys Cymhwyster Prosiect Estynedig.

Mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy yn rhaglen gyfoethogi’r cwricwlwm sy’n gorffen gyda Chymhwyster Prosiect Estynedig (CPE CBAC). Mae hyn yn ychwanegol at Gymhwyster Lefel 3 dysgwyr mewn Peirianneg, Busnes ac Adeiladu a gall sicrhau pwyntiau UCAS ychwanegol. Ategir y rhaglen gan raglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir ar y cyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, ochr yn ochr â buddsoddiad gan y sector preifat. Mae Fforwm Arfordirol Sir Benfro wedi cefnogi’r diwydiant ynni adnewyddadwy i greu taith gadarnhaol i ddysgwyr wrth gyflwyno’r sector preifat a’r bartneriaeth addysg hon.

Delwedd: Chwith i’r Dde James Roch-John Cyldynydd Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy Coleg Sir Benfro, a Rheolwr Prosiect DP Energy Lee Watt, yn y llun gyda derbyniad newydd o ddysgwyr yn cychwyn ar y cwrs Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy a arweinir gan y diwydiant.