Y Gadwyn Gyflenwi
Mae Gwynt Glas wedi cynnal digwyddiadau cadwyn gyflenwi lleol yn ne Cymru ac yn ne-orllewin Lloegr ar gyfer busnesau sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddatblygiadau gwynt alltraeth arnofiol Môr Celtaidd. Darparwyd gwybodaeth i gefnogi busnesau i gymryd rhan mewn cyfleoedd posibl a fydd yn deillio o adeiladu a gweithredu prosiectau fel Gwynt Glas.




Bydd datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol arbenigol a dibynadwy yn rhan bwysig o brosiect Gwynt Glas, yn cefnogi cymunedau arfordirol a chreu buddion hirdymor i’r rhanbarth De Cymru a De Orllewin Lloegr.
“Rydym yn credu’n gryf y bydd Gwynt Glas yn gatalydd ar gyfer twf pellach yn y gadwyn gyflenwi ledled y DU sy’n rhywbeth rydym ni fel cwmni yn gefnogol iawn iddo. Byddwn yn defnyddio ein profiad ym maes ynni gwynt ar y môr i helpu i ddod â chyfleoedd i gwmnïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar y prosiect hwn.
“Mae gwynt arnofiol alltraeth yn dechnoleg newydd gyffrous a bydd yn dod â mewnfuddsoddiad mawr ei angen a all adfywio economïau a chymunedau arfordirol.”
Sioban Butler, Rheolwr Caffael
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gadwyn gyflenwi, neu os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn gweithio gyda ni, cliciwch yma i lenwi ffurflen ddiddordeb y gadwyn gyflenwi.