Addysg

Mae adeiladu dyfodol cynaliadwy a sero net yn dibynnu ar y genhedlaeth nesaf o unigolion medrus, arloesol ac uchelgeisiol. Bydd addysgu ac ysbrydoli gweithlu llafur rhanbarthol
yn sicrhau bod cymunedau’n gwireddu budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
Gwynt Glas a phrosiectau gwynt arnofiol eraill am flynyddoedd i ddod.

Mae tîm Gwynt Glas wedi bod yn gweithio ar nifer o weithgareddau addysg, sgiliau ac allgymorth, gan gynnwys: ymweliadau ag ysgolion, noddi digwyddiadau addysgiadol allgyrsiol ac uwch-gwricwlaidd, a datblygu rhaglen Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) Lefel 3 o'r enw 'Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy' mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro.

STEM – Cwrs Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy 16-18

Er mwyn helpu i ddatblygu gweithlu lleol medrus, mae DP Energy ac EDF Renewables, ynghyd â Choleg Sir Benfro, wedi cynllunio cwrs 2 flynedd wedi'i anelu at y rhai sy'n astudio peirianneg, busnes ac adeiladu Lefel 3, neu Safon Uwch. Mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy wedi’i ddatblygu i roi trosolwg o dechnolegau adnewyddadwy gan gynnwys tonnau, llanw, gwynt ar y tir, solar a gwynt ar y môr, dangos cylch oes datblygu prosiect ynni adnewyddadwy ac amlygu’r gwahanol lwybrau gyrfa o fewn y diwydiant. Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i gysylltu â chyflogwyr y dyfodol i'w paratoi ar gyfer swyddi yn y farchnad ynni adnewyddadwy sy'n ehangu'n barhaus.

Darllenwch fwy am y bartneriaeth hon a’r cwrs yma.

Image

“Mae’r Coleg yn falch iawn o weithio mor agos gyda’r diwydiant i ddatblygu’r doniau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol mewn sector sydd mor bwysig i’n bywydau ni i gyd, ac un sydd eisoes â chartref sefydledig yma yn Sir Benfro. Fel ein partneriaid cyflenwi – EDF Renewables UK a DP Energy – rydym yn awyddus i wneud y gorau o’r buddion rhanbarthol y gall prosiectau ynni adnewyddadwy eu cynnig, a byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddatblygu gweithlu lleol medrus i weithio ar draws pob disgyblaeth.”

Arwyn Williams, Pennaeth Peirianneg, Coleg Sir Benfro 

Ynni Adnewyddadwy Cyrchfan

“Ysbrydoli ac addysgu gweithlu ynni gwyrdd y dyfodol.”

Mae menter 2 flynedd arloesol yn paratoi pobl ifanc 16-18 oed gyda EPQ Lefel 3, sy'n eu hysbrydoli a'u haddysgu am y sector ynni adnewyddadwy sy'n tyfu. Mae'r rhaglen wedi'i datblygu gan y partneriaid arweiniol: Coleg Sir Benfro, EDF Renewables, a DP Energy, a chaiff ei hategu gan raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’r cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth o dechnolegau adnewyddadwy ac yn amlygu’r llwybrau gyrfa amrywiol sydd eu hangen yn y diwydiant. Yn ystod y flwyddyn beilot (2022-2023), gwnaeth y rhaglen ymgysylltu â 90+ o ddysgwyr trwy sesiynau a gyflwynwyd fel seminarau, gweithdai, ac ymweliadau â safleoedd, gan arddangos cyfleoedd a sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant. Mae rhagor o arian cyfatebol wedi'i sicrhau ar gyfer Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy sydd bellach yng ngham 2 datblygu'r rhaglen.

Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Ym mis Chwefror 2022, noddodd Gwynt Glas Gystadleuaeth Sgiliau Ynni Adnewyddadwy gyntaf Cymru yng Ngholeg Sir Benfro. Ffurfiodd tua 30 o fyfyrwyr o golegau Cymru dimau i greu atebion ynni adnewyddadwy arloesol ar gyfer ynys arfordirol ffuglennol sy’n dibynnu ar hen generaduron disel. Arbenigwyr y diwydiant oedd yn creu’r darlun ac yn siapio’r her, a thrwy gydol y dydd bu ymgynghorwyr DP Energy/Gwynt Glas yn rhoi arweiniad i ddysgwyr uchelgeisiol Cymru. Daeth y diwrnod i ben gyda’r timau’n cyflwyno eu datrysiadau ynni arloesol i banel o feirniaid arbenigol oedd â blynyddoedd o wybodaeth a phrofiad yn y diwydiant.

SEREN

Mae SEREN, menter gan Lywodraeth Cymru, yn grymuso’r dysgwyr disgleiriaf sy’n mynychu ysgolion y wladwriaeth i gyrraedd eu potensial academaidd trwy gynnig gweithgareddau allgyrsiol ac uwch-gwricwlaidd, gan gyfoethogi eu haddysg a’u huchelgeisiau. Mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Penfro, trefnodd a noddodd Gwynt Glas weithdy ar gyfer dysgwyr SEREN o dair sir ar draws Cymru. Rhoddodd y profiad VR nhw yn esgidiau datblygwr fferm wynt gan eu cyflwyno i'r heriau sy'n gysylltiedig ag adeiladu fferm wynt alltraeth.

Wythnos Wyddoniaeth Prydain

Image

I ddathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain, cynhaliodd tîm Gwynt Glas weithdai yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd gyda 75 o fyfyrwyr blwyddyn 8 yn dangos pwysigrwydd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ynni adnewyddadwy i’r ardal leol.

Mae Gwynt Glas yn cysylltu â rhaglenni addysg arbenigol ac yn cefnogi Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Canolfan Darwin a Gyrfa Cymru gyda gweithgareddau allgymorth ysgolion cynradd ac uwchradd.

Image