Amdanom ni

Mae EDF power solutions UK a ESB wedi creu partneriaeth i ddatblygu Fferm Wynt Alltraeth Arnofiol Gwynt Glas. Mae’r partneriaeth hefyd yn gweithio gyda thîm DP Energy yn Sir Benfro, partner datblygu unigryw yn y prosiect, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd lleol.

EDF Renewables

Mae EDF power solutions DU ac Iwerddon yn is-gwmni i Grŵp EDF ac un o gwmnïau trydan carbon isel mwyaf y byd. Mae ein buddsoddiad a'n harloesedd yn lleihau costau i ddefnyddwyr ac yn dod â manteision sylweddol i gymunedau. Gyda’n portffolio gweithredu o 48 o safleoedd ynni adnewyddadwy gan gynnwys batris, gwynt ar y tir ac ar y môr (gyda’i gilydd yn fwy na 1.5 GW) rydym yn darparu trydan fforddiadwy, carbon isel y mae mawr ei angen ledled y DU ac Iwerddon. Mae gennym bortffolio sy'n ehangu gyda bron i 14 GW o brosiectau wrthi’n cael eu cynllunio a’u datblygu, gan gynnwys gwynt, batris a PV solar.

Dysgwch fwy yn www.edf-re.uk

Sefydlwyd ESB ym 1927 fel corff statudol o dan Ddeddf Trydan (Cyflenwi), 1927. Gyda daliad o 97.7 y cant, mae mwyafrif ESB yn eiddo Llywodraeth Iwerddon. Mae'r 2.3 y cant sy'n weddill yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr Cynllun Perchnogaeth Cyfranddaliadau Gweithwyr. Fel cyfleustod cryf, amrywiol, mae ESB yn gweithredu ar draws y farchnad drydan, o gynhyrchu trwy drawsyrru a dosbarthu, i gyflenwi cwsmeriaid yn ogystal â defnyddio ein rhwydweithiau i gludo ffibrau ar gyfer telathrebu.

Dysgwch fwy yn esb.ie

DP Energy

Mae DP Energy yn gwmni Gwyddelig sy'n datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws y byd. Gyda'i bencadlys yn Corc, Iwerddon, mae DP Energy hyd yma wedi datblygu dros 1GW o brosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi cael eu hadeiladu ac sy’n weithredol. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector ynni adnewyddadwy byd-eang, mae DP Energy wedi ymrwymo 100% i ddefnyddio'r dulliau mwyaf cynaliadwy ac amgylcheddol gyfrifol yn eu holl ddatblygiadau ynni. A hwythau’n gweithredu yn y DU ers y 1990au i gyflawni prosiectau gwynt ar y tir, agorodd DP Energy swyddfa yn Noc Penfro yn 2021 i ganolbwyntio ar gyfleoedd gwynt arnofiol y Môr Celtaidd, tra’n bwrw ymlaen â chynllun prosiectau’r DU a Marchnadoedd Newydd.