Myfyrwyr coleg yn ymgynnull yn y Senedd ar gyfer Cystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

15 February 2024
« Yn ôl i newyddion
Image

Mae Gwynt Glas, partneriaeth rhwng EDF Renewables UK a DP Energy, yn falch o fod wedi noddi digwyddiad Cystadleuaeth Sgiliau Ynni Adnewyddadwy Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Cynhaliwyd y digwyddiad, a drefnwyd gan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru ac a gyflwynwyd gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn y Senedd ar 5 Chwefror, 2024, gan ddod â myfyrwyr coleg o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gystadlu am yr anrhydedd mawreddog.

 

Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o ddarparu gwell sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i newid bywydau pobl ifanc yng Nghymru, gan gyfrannu at ffyniant Cymru gyfan.

 

Yn ystod y Gystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy bu 5 tîm o golegau ledled Cymru yn datblygu datrysiad ynni adnewyddadwy ar gyfer penrhyn ffuglennol yng Nghymru sy’n dibynnu ar eneraduron diesel sy’n heneiddio. Cafodd pob tîm gyfle i ofyn am gyngor arbenigol gan dîm Gwynt Glas a oedd yn gweithredu fel ymgynghorwyr, i brofi a gwneud y gorau o hyfywedd eu datrysiadau arfaethedig.

 

Ochr yn ochr â hyn, cynhaliwyd trafodaeth ‘Dyfodol Sero Net mewn Addysg Bellach’ i archwilio sut y bydd sgiliau a hyfforddiant yn cefnogi taith Cymru i sero net. Roedd y drafodaeth yn amlygu’r rôl hollbwysig y bydd Addysg Bellach yn ei chwarae wrth gyflawni’r nodau hyn.

 

Dywedodd Mark Hazelton, Cyfarwyddwr Prosiect Gwynt Glas:

“Rydym yn falch iawn o noddi’r Gystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy. Mae'r digwyddiad hwn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i ddod o hyd i atebion ynni cynaliadwy a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar y sector ynni adnewyddadwy sy'n tyfu. Rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli dysgwyr ifanc i ddilyn llwybrau gyrfa sy’n cyfrannu at ddatgarboneiddio Cymru.”

 

Dywedodd Arwyn Williams, Pennaeth y Gyfadran yng Ngholeg Sir Benfro, a threfnydd y gystadleuaeth:

“Mae’r gystadleuaeth hon yn codi ymwybyddiaeth o rôl bwysig cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac yn helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant. Rydym yn ddiolchgar i Gwynt Glas am eu cefnogaeth ac yn gobeithio y bydd y gystadleuaeth hon yn parhau i fagu momentwm..”

 

Rhannodd un o fyfyrwyr Coleg Sir Benfro, Logan Rus,s a gymerodd ran yn y gystadleuaeth, ei frwdfrydedd, gan ddweud:

"Roedd cymryd rhan yn yr her sgiliau ynni adnewyddadwy hon yn bleserus ac yn fuddiol dros ben. Rydw i wedi ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr y byddaf yn ddi-os yn eu cario gyda mi mewn unrhyw yrfaoedd yn y dyfodol, ac wedi cael profiad gwych na fyddaf yn ei anghofio."

 

Delwedd: Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething gyda dysgwyr o bob rhan o Gymru a gymerodd ran yn y gystadleuaeth