Gwynt Glas yn ymrwymo i baratoi'r gadwyn gyflenwi leol ar gyfer gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd

01 February 2023
« Yn ôl i newyddion
Image

Delwedd: Mark Hazelton, Cyfarwyddwr Prosiect Gwynt Glas 

Mae’n bleser gan Ynni Arnofiol Gwynt Glas, menter ar y cyd rhwng EDF Renewables UK a DP Energy, gyhoeddi manylion ei ddigwyddiad cadwyn gyflenwi lleol cyntaf a gynhelir ar 1 Mawrth ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Mae’r digwyddiad yn agored i fusnesau sydd â diddordeb mewn dod i wybod am dwf rhanbarthol y diwydiant gwynt arnofiol a chymryd rhan mewn cyfleoedd posibl i adeiladu a gweithredu Gwynt Glas, yn amodol ar y prosiect yn cael y caniatâd a’r prydlesi sydd eu hangen i ddatblygu prosiect 1GW yn y Môr Celtaidd. Mae mynediad am ddim ond mae angen cofrestru. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ewch i: tinyurl.com/GwyntGlasSupplierEvent

Daw’r digwyddiad yn dilyn penodiad Mark Hazelton yn Gyfarwyddwr Prosiect a fydd yn arwain y sgwrs yn y digwyddiad. Daw Mark â chyfoeth o brofiad o weithio ym meysydd datblygu, cynllunio a pholisi ynni gwynt ar y môr ar ôl gweithio yn Ystâd y Goron, rheolwyr gwely’r môr, a’r Sefydliad Rheoli Morol, awdurdod trwyddedu morol y DU, cyn ymuno ag EDF Renewables UK lle mae wedi arwain datblygiad prosiectau ffermydd gwynt sefydlog ac arnofiol.

Dywedodd Mark Hazelton:
“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda diwydiant lleol, gan wneud y gorau o fuddion lleol i gymunedau a busnesau a sicrhau bod trawsnewidiad cyfiawn tuag at gyflawni sero net yn greiddiol i’n cynnig. Mae gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd yn gyfle sylweddol i fusnesau lleol ac rydym yn awyddus i siarad â busnesau lleol i gyfathrebu sut y bydd prydlesu’r Moroedd Celtaidd nid yn unig yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac yn cefnogi ein sicrwydd ynni, ond hefyd i drafod sut y gall y datblygiad hwn ddiogelu a creu swyddi lleol.”

Mae gan EDF hanes o wneud y gorau o fuddion economaidd a chymdeithasol lleol wrth adeiladu prosiectau seilwaith ar raddfa fawr. Mae EDF yn flaengar wrth gefnogi technolegau gwynt alltraeth arnofiol sy'n dod i'r amlwg gan gynnwys adeiladu prosiect peilot gwynt arnofiol cyntaf Ffrainc, Provence Grand Large, a ymrwymodd o'r cychwyn cyntaf i ysgogi cwmnïau lleol. Mae EDF hefyd yn adeiladu Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf, un o’r prosiectau adeiladu mwyaf yn Ewrop, y rhagwelir y bydd yn buddsoddi £18 biliwn ym Mhrydain ac yn cefnogi 71,000 o gyfleoedd swyddi ledled y DU.

Mae Gwynt Glas yr un mor benderfynol o gefnogi swyddi a chadwyni cyflenwi lleol. Mae digwyddiad cadwyn gyflenwi mis Mawrth yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Chlwb Busnes Bae Abertawe ac yn digwydd cyn eu Cinio Busnes Dydd Gŵyl Dewi. Clwb Busnes Bae Abertawe yw prif glwb rhwydweithio busnes y rhanbarth.

Dywedodd Llywydd Clwb Busnes Bae Abertawe, Michael Morgan o Morgan & Morgan Business and Technology: “Ein hamcan syml yw ysgogi ffyniant ac mae ein Dathliad Dydd Gŵyl Dewi, a noddir gan Gwynt Glas, yn enghraifft wych o sut mae’r gymuned fusnes yn cefnogi ei gilydd ac yn cefnogi twf yn y rhanbarth.”